Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


09 Green Moor


09 ardal gymeriad Green Moor: tirwedd syml yn ymestyn dros gefnffen Redwick/Llandyfenni/Magwyr. (Ffoto: GGAT Wilkinson Site Exc3)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r fframwaith o brif ffosydd a lonydd yn dyddio o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg o leiaf, ac o gyfnod cynharach, mae'n debyg. Fodd bynnag, mae'r patrwm o gaeau yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol gan mwyaf. Amgaewyd yr ardaloedd i'r gogledd ac i'r dwyrain o'r rheilffordd yn gyntaf, efallai yn yr ail ganrif ar bymtheg neu'r ddeunawfed ganrif; amgaewyd Green Moor ei hun, i'r de o Lanwern, c. 1850.

Pan oedd Gwent Europark yn cael ei adeiladu darganfuwyd cwch Rhufeinig a oedd bron yn gyflawn gerllaw cei a wnaethpwyd o gerrig a phren.

Yn y cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol roedd Green Moor yn dir comin helaeth a ddefnyddid gan lawer o'r cymunedau oddi amgylch i bori anifeiliaid.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Unffurfiaeth, naws "gwlyptir" gryf, patrwm caeau rheolaidd, ffyrdd syth (cynllun grid), nodweddion draenio (ffosydd draenio, cefnennau/draeniau agored, gafaelion a phontydd)

Yr ardal isaf o gefnffen. Mae rhan ddeuol yr ardal yn ffinio â'r Gwaith Dur, y rheilffordd a Gwent Europark i'r gogledd, Rush Wall (ardal 9) a Blackwall i'r de/dwyrain (ardal 10). Mae'r llain i'r gogledd o'r rheilffordd wedi cadw ei hymyl ffen gwreiddiol.

Prif elfennau'r dirwedd dra unffurf hon yw patrwm rheolaidd iawn o ffiniau caeau, wedi'u gosod o fewn grid o ffyrdd syth a phrif ffosydd. Ychydig o nodweddion tirwedd eraill sydd, a dim ond un anheddiad (Barland's Farm). Mae gafaelion da ac ambell bont ardderchog mewn rhai ardaloedd (e.e. ar hyd Rush Wall). Mae pwll rhwydo hwyaid wedi'i gofnodi yn ST 416 862.

Mae cyflwr y dirwedd hon yn gymysg. I'r dwyrain ac i'r gogledd o Gwent Europark, mae'r rhan fwyaf o'r ffiniau wedi goroesi, mae caeau wedi cadw eu cefnennau arwyneb, ac mae gwrychoedd anghyflawn yn cynnwys nifer fawr o helyg aeddfed; mae i'r dirwedd hon naws gwlyptir gryf, yn nodweddiadol o ardaloedd o gefnffen isel. Mae'r ardal i'r de o'r Gwaith Dur wedi'i defnyddio fel tomen ludw.

Mae'r ardal i'r de o bentref Magwyr bellach yn warchodfa natur, sy'n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Mae dulliau rheoli traddodiadol yn cadw ardaloedd o ddoldir gwelltog a llystyfiant "fen carr".

Er eu bod yn fath cyffredin o batrwm caeau ers llawer dydd, prin yw tirweddau cefnffen cydryw iawn erbyn hyn. Mae ardaloedd i'r gogledd ac i'r dwyrain o Gwent Europark yn nodweddiadol, maent mewn cyflwr da ac maent wedi cadw ymyl wreiddiol y cefnffen. Ceir golygfeydd ardderchog o'r ucheldiroedd cyfagos, er bod yr ardal i'r de-orllewin o bentref Llandyfenni dan gysgod Gwent Europark. At ei gilydd, mae'r ardal ddwyreiniol a'r ardal ogleddol wedi cadw eu cyfanrwydd a'u cydlyniant i raddau helaeth.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk